Lleoliad:
Ystafell Bwyllgor 5
Dyddiad: Dydd Llun, 24 Ebrill 2023
Amser:
13.30 -
16.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13309
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jenny Rathbone AS (Cadeirydd) Jane Dodds AS Altaf Hussain AS Sarah Murphy AS Sioned Williams AS Ken Skates AS |
Staff y Pwyllgor: |
Rhys Morgan (Clerc) Rachael Davies (Ail Glerc) Angharad Roche (Dirprwy Glerc) Gareth Thomas (Ymchwil) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
Ni chafwyd ymddiheuriadau, dirprwyon na datganiadau o fuddiant
2 Papurau i'w nodi
Nododd yr Aelodau y papurau.
Mewn perthynas ag Eitem 2.8, cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am wybodaeth ychwanegol ynghylch y materion a godwyd.
2.1 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai at y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch diogelwch adeiladau.
2.2 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch y bwriad i ychwanegu cyrff cyhoeddus newydd at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
2.3 Gohebiaeth â’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS).
2.4 Gohebiaeth gan Gyngor ar Bopeth Cymru at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch cwmnïau ynni
2.5 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ynghylch adroddiad Archwilio Cymru ar Gynhwysiant Digidol
2.6 Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ynghylch y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol
2.7 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at yr Arglwydd Bellamy ynghylch tystiolaeth yn ymwneud â’r system gyfiawnder yng Nghymru
2.8 Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar brofiadau menywod o’r system cyfiawnder troseddol
2.9 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Cyllid ynglŷn â rhaglen ymgysylltu Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25
2.10Gohebiaeth rhwng y Cadeirydd a’r Pwyllgor Cyllid ynghylch Craffu ar Gyllideb Ddrafft 2023-24
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd yr Aelodau y cynnig.
4 Dyled ac effaith costau byw cynyddol: trafod yr adroddiad drafft.
Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft a chytunwyd i gwblhau’r adroddiad y tu allan i'r Pwyllgor.
5 Blaenraglen waith: ystyried y dull o ymdrin â Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol
Bu’r Aelodau’n trafod dull y Pwyllgor o ymdrin â gwaith yn ymwneud â Chynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru, a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i ofyn am wybodaeth ychwanegol.
6 Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: y dull o ran ymgysylltu
Bu’r Aelodau’n trafod opsiynau ar gyfer gwaith ymgysylltu ynghylch yr ymchwiliad i atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd.
7 Y Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE: adroddiad monitro
Nododd yr Aelodau’r adroddiad monitro ar y Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.